ITV

ITV
Math
rhwydwaith teledu
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau
Sefydlwyd1955
PencadlysThe London Studios
Cynnyrchteledu
Gwefanhttps://www.itvplc.com/, https://itvstudios.com/ Edit this on Wikidata


Rhwydwaith deledu masnachol yn y Deyrnas Unedig yw ITV. Fe'i lansiwyd fel Independent Television yn 1955 i gystadlu gyda'r BBC, hwn yw'r rhwydwaith masnachol hynaf yn y DU. Ers Deddf Darlledu 1990, ei enw cyfreithiol yw Channel 3, i'w wahaniaethu o'r sianeli analog arall oedd yn bodoli ar y pryd, sef BBC 1, BBC 2 a Channel 4.

Mae ITV yn rwydwaith o sianeli teledu sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu rhanbarthol a rhaglenni sy'n cael eu dangos ar draws y rhwydwaith. Ers rhai blynyddoedd mae'r cwmniau oedd yn berchen ar y masnachfreintiau rhanbarthol wedi cyfuno gan adael dau brif gwmni, ITV plc a STV Group (yn yr Alban).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search